Yr Efengyl yn ôl Ioan 14:7
Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd a adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon yw i ni.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 14
Cross References
Luke 10:22Fob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni w^yr neb pwy yw’r Mab, ond y Tad; na phwy yw’r Tad, ond y Mab, a’r neb y mynno’r Mab ei ddatguddio iddo.
John 6:46Nid oherwydd gweled o neb y Tad, ond yr hwn sydd o Dduw; efe a welodd y Tad.
John 14:9Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyda chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? Y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad?
John 15:24Oni bai wneuthur ohonof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasai arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac am casasant i a’m Tad hefyd.
John 16:13Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi.
John 17:6Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhodd aist hwynt i mi; a hwy a gadwasant dy air di.