Yr Efengyl yn ôl Ioan 17:10
A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
And all mine are thine, and thine are mine; and I am glorified in them.
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 17
Cross References
John 5:23Fel yr anrhydeddai pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu’r Tad. Yr hwn nid yw yn anrhydeddu’r Mab, nid yw yn anrhydeddu’r Tad yr hwn a’i hanfonodd ef.
John 11:4A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny.
John 16:14Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi.
1 Corinthians 3:21Am hynny na orfoledded neb mewn dynion: canys pob peth sydd eiddoch chwi:
Philippians 1:20Yn ôl fy awyddfryd a'm gobaith, na'm gwaradwyddir mewn dim, eithr mewn pob hyder, fel bob amser, felly yr awron hefyd, y mawrygir Crist yn fy nghorff i, pa un bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.
Colossians 1:15Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur: