Yr Efengyl yn ôl Ioan 21:15
Yna gwedi iddynt giniawa yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Pedr, Simon mab Jona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na’r rhai hyn? Dywedodd yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy garu di. Dywedodd yntau wrtho, Portha fy ŵyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Y drydedd waith hon yn awr yr ymddangosodd yr Iesu i’w ddisgyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 21
Cross References
Genesis 33:13Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a’r gwartheg blithion gyd â myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna yr holl braidd.
2 Kings 20:3Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac a chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr. º
Isaiah 40:11Fel bugail y portha fcfe- N braidd; a’i fraich y casgl ei wyn, ac a’u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mamogiaid. º
Jeremiah 23:4Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid, y rhai a’u bugeilia hwynt; ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisiau, medd yr ARGLWYDD. º
Ezekiel 34:23Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a'u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a'u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.
Matthew 10:37Yr hwn sydd yn carum tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi.