Yr Efengyl yn ôl Ioan 3:16
Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15Fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol.
17Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 3
Cross References
Genesis 22:12Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llangc, ac na wna ddim iddo: o herwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad atteliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.
Mark 12:6Am hynny eto, a chanddo un mab, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd atynt yn ddiwethaf gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.
John 1:14A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a driogodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.
John 1:29Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd.
John 3:36Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.
John 10:28A minnau ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i.