Yr Efengyl yn ôl Ioan 6:32
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid Moses a roddodd i chwi’r bara o’r nef: eithr fy Nhad sydd yn rhoddi i chwi’r gwir fara o’r nef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
33Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 6
Cross References
Exodus 16:4¶ Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, mi a wlawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnant.
John 6:33Canys bara Duw ydyw’r hwn sydd yn dyfod i waered o’r nef, ac yn rhoddi bywyd i’r byd.
John 6:41Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, oherwydd iddo ddywedyd, Myfi yw’r bara a ddaeth i waered o’r nef.
John 6:55Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a’m gwaed i sydd ddiod yn wir.
John 15:1Myfi yw’r wir winwydden, a’m Tad yw’r llafurwr.