Yr Efengyl yn ôl Ioan 8:41
Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Yr Efengyl yn ôl Ioan 8
Cross References
Exodus 4:22A dywed wrth Pharaoh, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Fy mab i, sef fy nghyntaf-anedig, yw Israel.
Deuteronomy 32:6Ai hyn a delwch i’r Arglwydd, bobl ynfyd ac anghall? onid efe yw dy dad a’th brynwr? onid efe a’th wnaeth, ac a’th sicrhaodd?
Isaiah 63:16Canys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na’n cydnebydd Israel: ti, ARGLWYDD, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd; dy enw sydd erioed. º
Jeremiah 3:19Ond mi a ddywedais. Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.
Ezekiel 16:20Cymeraist hefyd dy feibion a'th ferched, y rhai a blantasit i mi; y Thai hyn a aberthaist iddynt i'w bwyta. Ai bychan hyn o'th buteindra di,
Hosea 1:2Dechrau ymadrodd yr ARGLWYDD trwy Hosea. Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Hosea, Dos; cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr ARGLWYDD.