Llyfr Josua 1:5
Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 39:2Ac yr oedd yr Arglwydd gyd â Joseph, ac efe oedd wr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.
Deuteronomy 7:24Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gwr yn dy wyneb di, nes difetha o honot ti hwynt.
Deuteronomy 20:4Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyd â chwi, i ryfela â’ch gelynion trosoch chwi, ac i’ch achub chwi.
Deuteronomy 31:8A’r Arglwydd hefyd sydd yn myned o’th flaen di; efe a fydd gyd â thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrhâ.
Joshua 1:9Oni orchymynais i ti? Ymgryfhâ, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, i ba le bynnag yr elych.
Joshua 3:7¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhâu di y’ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau.