Llyfr Josua 10:1
Josua yn dychwelyd i Gilgal. A phan glybu Adonisedec brenhin Jerusalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnelsai efe i Jericho ac i’w brenhin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenhin,) a heddychu o drigolion Gibeon âg Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 6:21A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn wr ac yn wraig, yn fachgen ac yn henafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.
Joshua 8:22A’r lleill a aethant allan o’r ddinas i’w cyfarfod; felly yr oeddynt y’nghanol Israel, y rhai hyn o’r tu yma, a’r lleill o’r tu accw: a tharawsant hwynt, fel na adawyd un y’ngweddill nac yn ddïangol o honynt.
Joshua 9:15Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfammod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynnulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt.
Joshua 11:19Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heb law yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a ennillasant hwy trwy ryfel.