Llyfr Josua 10:28
¶ Josua hefyd a ennillodd Maccedah y dwthwn hwnnw, ac a’i tarawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenhin hi, hwynt-hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenhin Maccedah, fel y gwnaethai i frenhin Jericho.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
29¶ Yna yr aeth Josua a holl Israel gyd âg ef o Maccedah i Libnah, ac a ymladdodd yn erbyn Libnah.
Cross References
Deuteronomy 7:2A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di, a tharo o honot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfammod â hwynt, ac na thrugarhâ wrthynt.
Deuteronomy 20:16Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw:
Joshua 8:2A thi a wnei i Ai a’i brenhin, megis y gwnaethost i Jericho ac i’w brenhin: etto ei hanrhaith a’i hanifeiliaid a ysglyfaethwch i chwi eich hunain: gosod gynllwyn yn erbyn y ddinas, o’r tu cefn iddi.
Joshua 10:30A’r Arglwydd a’i rhoddodd hithau, a’r brenhin, yn llaw Israel; ac yntau a’i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenhin hi fel y gwnelsai i frenhin Jericho.
Joshua 10:35A hwy a’i hennillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a’i tarawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.
Joshua 10:39Ac efe a’i hennillodd hi, ei brenhin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u tarawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un y’ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenhin; megis y gwnelsai efe i Libnah, ac i’w brenhin.