Llyfr Josua 10:30
A’r Arglwydd a’i rhoddodd hithau, a’r brenhin, yn llaw Israel; ac yntau a’i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenhin hi fel y gwnelsai i frenhin Jericho.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
29¶ Yna yr aeth Josua a holl Israel gyd âg ef o Maccedah i Libnah, ac a ymladdodd yn erbyn Libnah.
Cross References
Numbers 32:22A darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd, ac y byddwch dïeuog ger bron yr Arglwydd, a cher bron Israel; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd.
Deuteronomy 7:2A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di, a tharo o honot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfammod â hwynt, ac na thrugarhâ wrthynt.
Joshua 8:29Ac efe a grogodd frenhin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchymynodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a’i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
Joshua 10:28¶ Josua hefyd a ennillodd Maccedah y dwthwn hwnnw, ac a’i tarawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenhin hi, hwynt-hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenhin Maccedah, fel y gwnaethai i frenhin Jericho.
Joshua 12:15Brenhin Libnah, yn un; brenhin Adùlam, yn un;