Llyfr Josua 10:40
¶ Felly y tarawodd Josua yr holl fynydd-dir, a’r dehau, y gwastadedd hefyd, a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un y’ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchymynasai Arglwydd Dduw Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
41A Josua a’u tarawodd hwynt o Cades-Barnea, hyd Gazah, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.
Cross References
Exodus 23:31A gosodaf dy derfyn o’r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o’r diffaethwch hyd yr afon; canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a’u gyrri hwynt allan o’th flaen.
Exodus 23:33Na âd iddynt drigo yn dy wlad; rhag iddynt beri i ti bechu i’m herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, dïau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.
Numbers 13:17¶ A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tu a’r dehau, a dringwch i’r mynydd.
Deuteronomy 2:34Ac a ennillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom un y’ngweddill.
Deuteronomy 7:24Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gwr yn dy wyneb di, nes difetha o honot ti hwynt.
Deuteronomy 26:16¶ Y dydd hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a’r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt â’th holl galon, ac â’th holl enaid.