Llyfr Josua 10:6
¶ A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thỳn ymaith dy ddwylaw oddi wrth dy weision: tyred i fynu yn fuan attom ni, achub ni hefyd, a chynnorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd-dir, a ymgynnullasant i’n herbyn ni.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Felly Josua a esgynodd o Gilgal, efe a’r holi bobl o ryfel gyd âg ef, a’r holl gedyrn nerthol.
Cross References
Joshua 5:10¶ A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynhaliasant y Pasc, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, brydnawn, yn rhosydd Jericho.
Joshua 9:8A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywedodd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch?
Joshua 9:24A hwy a attebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddïau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.
2 Kings 4:24Yna hi a gyfrwyodd yr asyn; ac a ddywedodd wrth ei llanc, Gyr, a dos rhagot; nac aros amdanaf fi i farchogaeth, onid archwyf i ti.
Isaiah 33:22Canys yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr, yr AR¬GLWYDD yw ein brenin; efe a’n ceidw. º