Llyfr Josua 11:23
Felly Josua a ennillodd yr holl wlad, yn ol yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ol eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A’r wlad a orphwysodd heb ryfel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 23:27Mi a anfonaf fy arswyd o’th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui attynt, ac a wnaf i’th holl elynion droi eu gwarrau attat.
Numbers 26:52¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
Numbers 34:2Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch chwi i dir Canaan, (dyma y tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a’i therfynau,)
Deuteronomy 11:23Yna y gyrr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi.
Deuteronomy 12:10Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddïogel:
Joshua 11:18Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.