Llyfr Josua 12:7
¶ Dyma hefyd frenhinoedd y wlad y rhai a darawodd Josua a meibion Israel o’r tu yma i’r Iorddonen o du y gorllewin, o Baal-Gad, y’nglyn Libanus, hyd fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fynu i Seir; a Josua a’i rhoddodd hi i lwythau Israel yn etifeddiaeth yn ol eu rhannau;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 14:6A’r Horiaid yn eu mynydd Seir, hyd wastadedd Paran, yr hwn sydd wrth yr anialwch.
Genesis 36:8Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.
Genesis 36:30Duc Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma dduciaid yr Horiaid ym mhlith eu duciaid y’ngwlad Seir.
Deuteronomy 2:4A gorchymyn i’r bobl, gan ddywedyd, Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhagoch: ond ymgedwch yn ddyfal.
Joshua 1:3Pob man y sango gwadn eich troed chwi arno, a roddais i chwi; fel y lleferais wrth Moses.
Joshua 9:1am yr hyn y condemniwyd hwy i gaethiwed tragywyddol. Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd, y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, at gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Phereziaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid;