The Bible Software
bible.software › Llyfr Josua › Llyfr Josua 14 › Llyfr Josua 14:12

Llyfr Josua 14:12

Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr Arglwydd fydd gyd â mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd.

Beibl (1620)

In The King James Version

Now therefore give me this mountain, whereof the LORD spake in that day; for thou heardest in that day how the Anakims were there, and that the cities were great and fenced: if so be the LORD will be with me, then I shall be able to drive them out, as the LORD said.

In Context

11Yr ydwyf etto mor gryf heddyw a’r dydd yr anfonodd Moses fi: fel yr oedd fy nerth i y pryd hwnnw, felly y mae fy nerth i yn awr, i ryfela, ac i fyned allan, ac i ddyfod i mewn.

13A Josua a’i bendithiodd ef, ac a roddodd Hebron i Caleb mab Jephunneh yn etifeddiaeth.

Read all of Llyfr Josua 14

Cross References

Numbers 13:33Ac yno y gwelsom y cawri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cawri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.

Numbers 14:9Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd sydd gyd â ni: nac ofnwch hwynt.

Deuteronomy 9:1Moses yn eu hannog, nad ymddiriedent yn eu cyfiawnder eu hunain: gan ddatgan eu hamryw wrthryfel hwynt. Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddyw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchennogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd;

Joshua 11:21¶ A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Judah, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd.

Judges 1:20Ac i Caleb y rhoisant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.

2 Chronicles 14:11Ac Asa a waeddodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, nid yw ddim i ti gynorthwyo, pa un bynnag ai gyda llawer, ai gyda’r rhai nid oes ganddynt gryfder: cynorthwya di ni, O ARGLWYDD ein Duw; canys pwyso yr ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon: O AR¬GLWYDD, ein Duw ni ydwyt ti, na orfydded dyn i’th erbyn.

This Verse In Other Editions

King James VersionBíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)Библия (Русский)新标点和合本성경 (한국어)الكتاب المقدس باللغة العربية، فان دايكBibbia Diodati (Italiano)Kinh Thánh (Tiếng Việt)Biblia Cornilescu (Română)Polish Biblia Gdanska (1881)Statenvertaling (Nederlands)

Study Llyfr Josua 14:12

Matthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)
← Llyfr Josua 14:11Llyfr Josua 14Llyfr Josua 14:13 →