bible.software › Llyfr Josua › Llyfr Josua 17 › Llyfr Josua 17:15
Llyfr Josua 17:15
A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fynu i’r coed, a thorr goed i ti yno y’ngwlad y Phereziaid, a’r cawri, od yw mynydd Ephraim yn gyfyng i ti.
Beibl (1620)
In The King James Version
And Joshua answered them, If thou be a great people, then get thee up to the wood country, and cut down for thyself there in the land of the Perizzites and of the giants, if mount Ephraim be too narrow for thee.
In Context
14¶ A meibion Joseph a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i’r Arglwydd hyd yn hyn fy mendithio?
16A meibion Joseph a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heiyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth-sean a’i threfi, a chan y rhai sydd y’nglyn Jezreel.
Read all of Llyfr Josua 17
Cross References
Genesis 14:5A’r bedwaredd flwyddyn ar ddeg y daeth Cedorlaomer, a’r brenhinoedd y rhai oedd gyd âg ef, ac a darawsant y Rephaimiaid yn Asteroth-Carnaim, a’r Zuziaid yn Ham, a’r Emiaid yn Safeh-Ciriathaim,
Exodus 33:2A mi a anfonaf angel o’th flaen di, ac a yrraf allan y Canaanead, yr Amoriad, a’r Hethiad, y Phereziad, yr Hefiad, a’r Jebusiad:
2 Samuel 5:18A’r Philistiaid a ddaethant, ac a ymdaenasant yn nyffryn Reffaim.
This Verse In Other Editions
Study Llyfr Josua 17:15