Llyfr Josua 18:10
¶ A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy ger bron yr Arglwydd yn Siloh: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ol eu rhannau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 14:5Fel y gorchymynasai yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth meibion Israel, a hwy a rannasant y wlad.
Joshua 18:8¶ A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchymynodd i’r rhai oedd yn myned i rannu y wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy y wlad, a dosperthwch hi, a dychwelwch attaf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren ger bron yr Arglwydd yn Siloh.
Joshua 23:4Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi, o’r Iorddonen, a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tu a’r gorllewin.
Nehemiah 11:1A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem: a’r rhan arall o’r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o’r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill.
Psalms 47:4Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas DUW; cysegr preswylfeydd y Goruchaf.
Proverbs 18:18Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn.