Llyfr Josua 18:16
Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tu a chwrr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cawri tu a’r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tu a’r dehau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 15:63Ond ni allodd meibion Judah yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerusalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyd â meibion Judah yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.
Judges 1:8A meibion Judah a ymladdasant yn erbyn Jerusalem; ac a’i hennillasant hi, ac a’i tarawsant â min y cleddyf; a llosgasant y ddinas â thân.
Judges 19:10A’r gŵr ni fynnai aros dros nos; eithr cyfododd, ac a aeth ymaith: a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon yw Jerwsalem, a chydag ef gwpl o asynnod llwythog, a’i ordderchwraig gydag ef. º
1 Kings 1:9Ac Adoneia a laddodd ddefaid, a gwartheg, a phasgedigion, wrth faen Soheleth, yr hwn sydd wrth En-rogel, ac a wahoddodd ei holl frodyr meibion y brenin, a holl wŷr Jwda gweision y brenin.
1 Chronicles 14:9A’r Philistiaid a ddaethant ac a ymwasgarasant yn nyffryn Reffaim. º
2 Chronicles 33:6Ac efe a yrrodd ei feibion trwy’r tân yn nyffryn mab Hinnom, ac a arferodd frud, a hudoliaeth, a chyfareddion, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef.