Llyfr Josua 18:7
Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; o herwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasseh, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du y dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd iddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 18:23Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragywyddol fydd hyn trwy eich cenhedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ym mysg meibion Israel.
Deuteronomy 3:12A’r wlad hon a berchennogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a’i ddinasoedd ef a roddais i’r Reubeniaid ac i’r Gadiaid.
Deuteronomy 10:9Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyd â’i frodyr: yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef.
Joshua 12:6Moses gwas yr Arglwydd a meibion Israel a’u tarawsant hwy: a Moses gwas yr Arglwydd a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasseh.
Joshua 13:14Yn unig i lwyth Lefi ni roddodd efe etifeddiaeth; aberthau tanllyd Arglwydd Dduw Israel oedd ei etifeddiaeth ef, fel y llefarasai efe wrtho.
Joshua 13:17Hesbon a’i holl ddinasoedd, y rhai sydd yn y gwastadedd; Dibon, a Bamoth-Baal, a Beth-Baal-meon;