Llyfr Josua 22:24
Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ol hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Beth sydd i chwi a wneloch âg Arglwydd Dduw Israel?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 18:19Canys mi a’i hadwaen ef, y gorchymyn efe i’w blant, ac i’w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn; fel y dygo yr Arglwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano.
Exodus 13:14A phan ofynno dy fab ar ol hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed.
Joshua 4:6Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofyno eich meibion chwi yn ol hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddoccâu i chwi?