Llyfr Josua 22:34
A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed: canys tyst fydd hi rhyngom ni, mai yr Arglwydd sydd Dduw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 31:48A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddyw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed,
Joshua 24:27A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.
Isaiah 19:19Y dydd hwnnw y bydd allor i’r ARGLWYDD yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i’r ARGLWYDD gerllaw ei therfyn hi. º
Matthew 4:10Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ymaith, Satan; canys ysgrifennwyd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.