Llyfr Josua 22:5
Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orchymynodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi; sef caru yr Arglwydd eich Duw, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchymynion ef, a glynu wrtho ef, a’i wasanaethu ef â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6A Josua a’u bendithiodd hwynt, ac a’u gollyngodd ymaith. A hwy a aethant i’w pebyll.
Cross References
Exodus 20:6Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.
Deuteronomy 4:1Moses yn appwyntio y tair dinas noddfa, o’r tu hwnnw i’r Iorddonen. Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’ w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi.
Deuteronomy 4:6Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a’ch deall chwi, y’ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddïau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon.
Deuteronomy 6:5Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth.
Deuteronomy 10:12¶ Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid,
Deuteronomy 11:1Rhoddi y fendith a’r felldith o’u blaen hwynt. Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, a’i orchymynion, byth.