The Bible Software
bible.software › Llyfr Josua › Llyfr Josua 23 › Llyfr Josua 23:14

Llyfr Josua 23:14

Ac wele fi yn myned heddyw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr Arglwydd eich Duw am danoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim o honynt.

Beibl (1620)

In The King James Version

And, behold, this day I am going the way of all the earth: and ye know in all your hearts and in all your souls, that not one thing hath failed of all the good things which the LORD your God spake concerning you; all are come to pass unto you, and not one thing hath failed thereof.

In Context

13Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.

15Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.

Read all of Llyfr Josua 23

Cross References

Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.

Leviticus 26:3¶ Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a’m gorchymynion a gedwch, a’u gwneuthur hwynt;

Deuteronomy 28:1Melldithion am anufudd-dod. Ac os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ac i wneuthur ei holl orchymynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw; yna yr Arglwydd dy Dduw a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear.

Joshua 21:45Ni phallodd dim o’r holl bethau da a lefarasai yr Arglwydd wrth dŷ Israel: daeth y cwbl i ben.

1 Kings 2:2Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr;

Job 30:23Canys myfi a wn y dygi di fi i i farwolaeth; ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw.

This Verse In Other Editions

King James VersionBíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)Библия (Русский)新标点和合本성경 (한국어)الكتاب المقدس باللغة العربية، فان دايكBibbia Diodati (Italiano)Kinh Thánh (Tiếng Việt)Biblia Cornilescu (Română)Polish Biblia Gdanska (1881)Statenvertaling (Nederlands)

Study Llyfr Josua 23:14

Matthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)
← Llyfr Josua 23:13Llyfr Josua 23Llyfr Josua 23:15 →