Llyfr Josua 23:15
Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:14¶ Ond os chwi ni wrandêwch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchymynion hyn;
Judges 3:8Am hynny dicllonedd yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel, ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan-risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan-risathaim wyth mlynedd.
Judges 4:1Ameibion Israel a chwanegasant wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, wedi marw Ehwd.
Judges 10:6A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a wasanaethasant Baalim, ac Astaroth, a duwiau Syria, a duwiau Sidon, a duwiau Moab, a duwiau meibion Ammon, a duwiau y Philistiaid; a gwrthodasant yr ARGLWYDD, ac ni wasanaethasant ef. º
1 Kings 14:15Canys yr ARGLWYDD a dery Israel, megis y siglir y gorsen mewn dwfr; ac a ddiwreiddia Israel o’r wlad dda hon a roddodd efe i’w tadau hwynt, ac a’u gwasgar hwynt tu hwnt i’r afon; oher¬wydd gwneuthur ohonynt eu llwyni, gan annog yr ARGLWYDD i ddigofaint. º
Jeremiah 32:42Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl xxxx fawr ddrwg hyn, felly y dygaf ni arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt. º