Llyfr Josua 23:9
Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac am danoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.
Cross References
Exodus 23:30O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o’th flaen di, nes i ti gynnyddu ac etifeddu y tir.
Deuteronomy 11:23Yna y gyrr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi.
Joshua 1:8Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ol yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.
Joshua 21:43¶ A’r Arglwydd a roddodd i Israel yr holl wlad a dyngodd efe ar ei rhoddi wrth eu tadau hwynt: a hwy a’i meddiannasant hi, ac a wladychasant ynddi.
Joshua 24:18A’r Arglwydd a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr Arglwydd; canys efe yw ein Duw ni.
2 Chronicles 20:7Onid tydi ein Duw ni a yrraist ymaith breswylwyr y wlad hon o flaen dy bob! Israel, ac a’i rhoddaist hi i had Abraham dy garedigol yn dragywydd?