Llyfr Josua 24:1
Marwolaeth Eleazar. A Josua a gynnullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu pennaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant ger bron Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 33:18¶ Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd y’ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas.
Exodus 18:25A Moses a ddewisodd wŷr grymmus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn bennaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau.
Joshua 20:7¶ Am hynny y cyssegrasant Cedes yn Galilee, ym mynydd Naphtali, a Sichem ym mynydd Ephraim, a Chaer-Arba, hon yw Hebron, ym mynydd Judah.
Judges 9:1Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac a holl dylwyth ty tad ei fam, gan ddywedyd, º
1 Samuel 10:19A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a’ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr ARGLWYDD wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd. º
2 Kings 23:1A’R brenin a anfonodd, a holl henuriaid i - Jwda a Jerwsalem a ymgynullasant ato ef. º