Llyfr Josua 24:11
A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 23:23O herwydd fy angel a â o’th flaen di, ac a’th ddwg di i mewn at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u difethaf hwynt.
Joshua 3:10Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyrr efe allan y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Hefiaid, a’r Phereziaid, a’r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a’r Jebusiaid, o’ch blaen chwi.
Joshua 4:1Sefydlu y deuddeg carreg yn Gilgal. A phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen, yr Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd,
Joshua 4:11A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr Ar- glwydd a aeth drosodd, a’r offeiriaid, y’ngŵydd y bobl.
Joshua 4:23Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd:
Joshua 6:6¶ A Josua mab Nun a alwodd yr offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Codwch arch y cyfammod, a dyged saith o offeiriaid saith o udgyrn o gyrn hyrddod o flaen arch yr Arglwydd.