Llyfr Josua 24:14
¶ Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 20:5Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac y’nglendid fy nwylaw, y gwneuthum hyn.
Exodus 20:3Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
Deuteronomy 6:13Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i’w enw ef y tyngi.
Deuteronomy 18:13Bydd berffaith gyd â’r Arglwydd dy Dduw.
Joshua 24:23Am hynny yn awr, eb efe, bwriwch ymaith y duwiau dïeithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel.
2 Kings 20:3Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd, ac a chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg di. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr. º