Llyfr Josua 24:17
Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a’n dug ni i fynu a’n tadau o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ym mysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 13:14A phan ofynno dy fab ar ol hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed.
Deuteronomy 7:19Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a’r arwyddion, a’r rhyfeddodau, a’r llaw gadarn, a’r braich estynedig, â’r rhai y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw allan: felly y gwna yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni.
Deuteronomy 32:9Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef.
Deuteronomy 32:12Felly yr Arglwydd yn unig a’i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dïeithr gyd âg ef.
2 Chronicles 13:10Ninnau, yr ARGLWYDD yw ein Duw ni, ac nis gwrthodasom ef; a’r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr ARGLWYDD yw meibion Aaron, a’r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl.
Isaiah 63:7Cofiaf drugareddau yr ARGLWYDD, a moliant Duw, yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau. º