Llyfr Josua 24:19
A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd; canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw; ni ddïoddef efe eich anwiredd, na’ch pechodau.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 20:5Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y dryd edd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;
Exodus 34:7Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod, a heb gyfrif yr anwir yn gyfiawn; yr hwn a ymwêl âg anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blant y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.
Leviticus 10:3A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma yr hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt attaf, a cher bron yr holl bobl y’m gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron.
Leviticus 11:45Canys myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn DDUW i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
Leviticus 20:26Byddwch chwithau sanctaidd i mi: o herwydd myfi yr Arglwydd ydwyf sanctaidd, ac a’ch neillduais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.
Ruth 1:15A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith.