Llyfr Josua 24:20
O gwrthodwch yr Arglwydd, a gwasanaethu duwiau dïeithr; yna efe a dry, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
21A’r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nag ê; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd.
Cross References
1 Samuel 12:25Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a ‘ch brenin a ddifethir.
1 Chronicles 28:9A thithau Solomon fy mab, adne-bydd DDUW dy dad, a gwasanaetha ef a chalon berffaith, ac a meddwl ewyllysgar: canys yr ARGLWYDD sydd yn Chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd. º
Ezra 8:22Canys cywilydd oedd gennyf geisio gan y brenin fyddin a gwŷr meirch, i’n cynorthwyo rhag y gelyn ar y ffordd: canys llefarasem wrth y brenin, gan ddywedyd, Llaw ein Duw ni sydd er daioni ar bawb a’i ceisiant ef, a’i gryfder a’i ddicter yn erbyn pawb a’i gadawant ef.
Isaiah 1:28A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd; a’r rhai a ymadawant â’r ARGLWYDD, a ddifethir.
Isaiah 65:11Ond chwi yw y rhai a wrthodwch yr ARGLWYDD, a anghofiwch fy mynydd sanctaidd, a arlwywch fwrdd i’r llu acw, ac a lenwch ddiod-offrwm i’r niferi acw. º
Ezekiel 18:24Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ol yr holl ffieidd-dra a wnelo yr annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe: yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ac yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw.