Llyfr Josua 24:27
A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
28Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i’w etifeddiaeth.
Cross References
Deuteronomy 4:26Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.
Deuteronomy 31:19Ysgrifenwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fd y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel.
Deuteronomy 31:26Cymmerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfammod yr Arglwydd eich Duw; fel y byddo yno yn dyst i’th erbyn.
Joshua 22:27Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hol, i gael o honom wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef, â’n poeth-offrymmau, ac â’n hebyrth, ac â’n hoffrymmau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ol hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd.
Joshua 22:34A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed: canys tyst fydd hi rhyngom ni, mai yr Arglwydd sydd Dduw.
Job 31:23Canys ofn dinistr DUW oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef.