Llyfr Josua 3:1
Hollti dyfroedd yr Iorddonen. A Josua a gyfododd yn fore, a chychwynasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Ac ym mhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu;
Cross References
Genesis 22:3¶ Ac Abraham a fore-gododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymmerodd ei ddau langc gyd âg ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poeth-offrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho.
Joshua 2:1Eu dychweliad a’u newyddion hwynt. A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau wr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ putteinwraig a’i henw Rahab, ac a lettyasant yno.
Joshua 6:15Ac ar y seithfed dydd y cyfodasant yn fore ar godiad y wawr, ac yr amgylchasant y ddinas y modd hwnnw, saith waith: yn unig y dwthwn hwnnw yr amgylchasant y ddinas seithwaith.
Joshua 8:10A Josua a gyfododd yn fore, ac a gyfrifodd y bobl; ac a aeth i fynu, efe a henuriaid Israel, o flaen y bobl, tu ag at Ai.
1 Samuel 17:20A Dafydd a gyfododd yn fore, ac a adawodd y defaid gyda cheidwad, ac a gymerth, ac a aeth, megis y gorchmynasai Jesse iddo ef, ac efe a ddaeth i’r gwersyll, a’r llu yn myned allan i’r gad, ac yn bloeddio i’r frwydr. º
Jeremiah 7:13Ac yn awr, am wneuthur ohonoch yr holl weithredoedd hyn, medd yr ARGLWYDD, minnau a leferais wrthych, gan godi yn fore, a llefaru, eto ni chlywsoch; a gelwais arnoch, ond nid atebasoch: