Llyfr Josua 4:24
Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 9:16Ac yn ddïau er mwyn hyn y’th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy yr holl ddaear.
Exodus 15:16Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o’th bobl di, Arglwydd, nes myned o’r bobl a ennillaist ti trwodd.
Deuteronomy 6:2Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchymynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estyner dy ddyddiau.
1 Samuel 17:46Y dydd hwn y dyry yr ARGLWYDD dydi yn fy llaw i, a mi a’th drawaf di, ac a gymeraf ymaith dy ben oddi arnat; ac a roddaf gelanedd gwersyll y Philistiaid y dydd hwn i ehediaid y nefoedd, ac i lwystfilod y ddaear; fel y gwypo yr holl ddaear fod Duw yn Israel. º
1 Kings 8:42(Canys clywant am dy enw mawr di, a’th law gref, a’th fraich estynedig;) pan ddel a gweddi’o tua’r tŷ hwn: º
2 Kings 19:19Yn awr gan hynny, O ARGLWYDO ein Duw ni, achub ni, atolwg, o’i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr ARGLWYDD DDUW, tydi yn unig. º