Llyfr Josua 6:25
A Josua a gadwodd yn fyw Rahab y butteinwraig, a thylwyth ei thad, a’r hyn oll oedd ganddi; a hi a drigodd ym mysg Israel hyd y dydd hwn: am iddi guddio y cenhadau a anfonasai Josua i chwilio Jericho.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 2:1Eu dychweliad a’u newyddion hwynt. A Josua mab Nun a anfonodd o Sittim ddau wr, i chwilio yn ddirgel, gan ddywedyd, Ewch, edrychwch y wlad, a Jericho. A hwy a aethant, ac a ddaethant i dŷ putteinwraig a’i henw Rahab, ac a lettyasant yno.
Joshua 2:6Ond hi a barasai iddynt esgyn i nen y tŷ, ac a’u cuddiasai hwynt mewn bolldeidiau llin, y rhai oedd ganddi wedi eu hysgafnu ar nen y tŷ.
Joshua 4:9A Josua a osododd i fynu ddeuddeg carreg y’nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfammod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.
Judges 1:24A’r ysbïwyr a welsant ŵr yn dyfod allan o’r ddinas; ac a ddywedasanf wrtho, Dangos i ni, atolwg, y ffordd yr eir i’r ddinas, a ni a wnawn drugaredd â thi.
Matthew 1:5A Salmon a genhedlodd Booz o Rachab; a Booz a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Jesse;
Hebrews 11:31Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y butain gyda’r rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi’r ysbïwyr yn heddychol.