Llyfr Josua 7:1
ei ddinystrio ef a’r hyn oll oedd iddo, yn nyffryn Achor. Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y dïofryd-beth: canys Achan mab Carmi, mab Zabdi, mab Zerah, o lwyth Judah, a gymmerodd o’r dïofryd-beth: ac ennynodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn meibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 34:27Meibion Jacob a ddaethant ar lladdedigion, ac a yspeiliasant y ddinas, am halogi o honynt eu chwaer hwynt.
Joshua 6:17¶ A’r ddinas fydd yn ddïofryd-beth, hi, a’r hyn oll sydd ynddi, i’r Arglwydd: yn unig Rahab y butteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyd â hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.
Joshua 22:16Fel hyn y dywed holl gynnulleidfa yr Arglwydd, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel, gan ddychwelyd heddyw oddi ar ol yr Arglwydd, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddyw yn erbyn yr Arglwydd?
Joshua 22:20Oni wnaeth Achan mab Zerah gamwedd, o herwydd y dïofryd-beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynnulleidfa Israel? ac efe oedd un gwr; etto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.
1 Chronicles 2:6A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump.
1 Chronicles 21:7A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel. º