Llyfr Josua 7:24
A Josua a gymmerth Achan mab Zerah, a’r arian, a’r fantell, a’r llafn aur, ei feibion hefyd, a’i ferched, a’i wartheg, a’i asynod, ei ddefaid hefyd, a’i babell, a’r hyn oll a feddai efe: a holl Israel gyd âg ef a’u dygasant hwynt i ddyffryn Achor.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 18:25Na byddo i ti wneuthur y cyfryw beth, gan ladd y cyfiawn gyd â’r annuwiol, fel y byddo y cyfiawn megis yr annuwiol: na byddo hynny i ti: oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?
Numbers 16:27Yna yr aethant oddi wrth babell Corah, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a’u meibion, a’u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.
Joshua 6:21A hwy a ddifrodasant yr hyn oll oedd yn y ddinas, yn wr ac yn wraig, yn fachgen ac yn henafgwr, yn eidion, ac yn ddafad, ac yn asyn, â min y cleddyf.
Joshua 7:26A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.
Joshua 22:20Oni wnaeth Achan mab Zerah gamwedd, o herwydd y dïofryd-beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynnulleidfa Israel? ac efe oedd un gwr; etto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.
Job 20:23Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigo¬faint; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd.