Llyfr Josua 8:14
¶ A phan welodd brenhin Ai hynny, yna gwŷr y ddinas a frysiasant, ac a fore-godasant, ac a aethant allan i gyfarfod Israel i ryfel, efe a’i holl bobl, ar amser nodedig, ar hyd wyneb y gwastadedd: canys ni wyddai efe fod cynllwyn iddo, o’r tu cefn i’r ddinas.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15A Josua a holl Israel, fel pe tarawsid hwy o’u blaen hwynt, a ffoisant ar hyd yr anialwch.
Cross References
Deuteronomy 1:1a’u hanufodd-dod hwy. Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o’r tu yma i’r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â’r môr coch, rhwng Paran, a Tophel, a Laban, a Haseroth, a Dizahab.
Joshua 8:16A’r holl bobl, y rhai oedd yn y ddinas, a alwyd ynghyd, i erlid ar eu hol hwynt: a hwy a erlidiasant ar ol Josua, ac a dynnwyd oddi wrth y ddinas.
Judges 20:37A’r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a’r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf. º
Isaiah 19:11Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd? º
Daniel 4:31A’r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o’r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt.
Matthew 24:50Arglwydd y gwas hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwyl amdano, ac mewn awr nis gŵyr efe;