Llyfr Josua 9:1
am yr hyn y condemniwyd hwy i gaethiwed tragywyddol. Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd, y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, at gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Phereziaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.
Cross References
Exodus 3:17A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Exodus 23:31A gosodaf dy derfyn o’r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o’r diffaethwch hyd yr afon; canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a’u gyrri hwynt allan o’th flaen.
Numbers 13:29Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y dehau; a’r Hethiaid, a’r Jebusiaid, a’r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd-dir; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cher llaw yr Iorddonen.
Deuteronomy 1:7Dychwelwch, a chychwynwch rhagoch, ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i’w holl gyfagos leoedd; i’r rhos, i’r mynydd, ac i’r dyffryn, ac i’r dehau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Euphrates.
Deuteronomy 4:49A’r holl ros tu hwnt i’r Iorddonen tu a’r dwyrain, a hyd at fôr y rhos, dan Asdoth-Pisgah.
Joshua 1:4O’r anialwch, a’r Libanus yma, hyd yr afon fawr, afon Euphrates, holl wlad y Hethiaid, hyd y môr mawr, tu a machludiad yr haul, fydd eich terfyn chwi.