Llyfr Josua 9:22
¶ Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 3:13A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarph a’m twyllodd, a bwytta a wneuthum.
Genesis 27:41¶ Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesâu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.
Joshua 9:6Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfammod â ni.
Joshua 9:16Ond ym mhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfammod â hwynt, hwy a glywsant mai cymmydogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros.