Jude 1:9
Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau a diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi. 1:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 22:28¶ Na chabla y swyddogion; ac na felldithia bennaeth dy bobl.
1 Chronicles 12:17A Dafydd a aeth i’w cyfarfod hwynt, ac a lefarodd ac a ddywedodd wrthynt, Os mewn heddwch y daethoch chwi ataf fi i’m cynorthwyo, bydd fy nghalon yn un a chwi: ond os i’m bradychu i’m gelynion, a minnau heb gamwedd yn fy nwylo, Duw ein tadau ni a edrycho, ac a geryddo. º
Isaiah 37:3A hwy a ddywedasant wrtho. Fel hyn y dywedodd Heseceia, Diwrnod cyfyngder, a cherydd, a chabledd, yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor. º
Daniel 10:13Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un o’r tywysogion pennaf a ddaeth i’m cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia.
Daniel 12:1Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y twysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr.
Mark 15:29A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio’r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau,