Llyfr y Barnwyr 1:19
A’r Arglwydd oedd gyd â Judah; ac efe a oresgynodd y mynydd: ond ni allai efe yrru allan drigolion y dyffryn; canys cerbydau heiyrn oedd ganddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18Judah hefyd a ennillodd Gazah a’i therfynau, ac Ascalon a’i therfynau, ac Ecron a’i therfynau.
20Ac i Caleb y rhoisant Hebron; fel y llefarasai Moses: ac efe a yrrodd oddi yno dri mab Anac.
Cross References
Genesis 39:21¶ Ond yr Arglwydd oedd gyd â Joseph, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo y’ngolwg pennaeth y carchardy.
Joshua 1:5Ni saif neb o’th flaen di holl ddyddiau dy einioes: megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau: ni’th adawaf, ac ni’th wrthodaf.
Joshua 7:12Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwarr o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymmunbeth: ni byddaf mwyach gyd â chwi, oni ddifethwch yr ysgymmunbeth o’ch mysg.
Joshua 14:12Yn awr gan hynny dyro i mi y mynydd yma, am yr hwn y llefarodd yr Arglwydd y dwthwn hwnnw, (canys ti a glywaist y dwthwn hwnnw fod yr Anaciaid yno, a dinasoedd mawrion caerog;) ond odid yr Arglwydd fydd gyd â mi, fel y gyrrwyf hwynt allan, megis y llefarodd yr Arglwydd.
Judges 1:2A dywedodd yr Arglwydd, Judah a â i fynu: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef.
Judges 4:3A meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD: canys naw can cerbyd haearn oedd ganddo ef; ac efe a orthrymodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd.