Llyfr y Barnwyr 2:1
Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth i fyny o Gilgal i Bochim, ac a ddywedodd, Dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac arweiniais chwi i’r wlad am yr hon y tyngais wrth eich tadau; ac a ddywedais, Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 16:7¶ Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Sur:
Genesis 17:7Cadarnhâf hefyd fy nghyfammod rhyngof a thi, ac â’th had ar dy ol di, trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i’th had ar dy ol di.
Genesis 22:16Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, o herwydd gwneuthur o honot y peth hyn, ac nad atteliaist dy fab, dy unig fab:
Genesis 48:16Yr angel yr hwn a’m gwaredodd oddi wrth bob drwg, a fendithio’r llangciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn llïaws y’nghanol y wlad.
Exodus 14:14Yr Arglwydd a ymladd drosoch; am hynny tewch chwi â sôn.
Exodus 20:2Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.