Llyfr y Barnwyr 20:18
A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fyny i dŷ DDUW, ac a ymgyngorasant a Duw, ac a ddywedasant, Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i’r gad yn erbyn meibion Benjamin? A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda a â yn gyntaf. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19A meibion Israel a gyfodasant y bore, ac a wersyllasant yn erbyn Gibea. º
Read all of Llyfr y Barnwyr 20
Cross References
Genesis 49:8¶ Tithau, Judah, dy frodyr a’th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymmant i ti.
Numbers 27:21A safed ger bron Eleazar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gynghor drosto ef, yn ol barn Urim, ger bron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gyd âg ef, a’r holl gynnulleidfa.
Joshua 18:1eu dinasoedd. A holl gynnulleidfa meibion Israel a ymgynnullasant i Siloh, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt.
Judges 1:2A dywedodd yr Arglwydd, Judah a â i fynu: wele, rhoddais y wlad yn ei law ef.
Judges 19:18Yntau a ddywedodd wrtho, Tramwyo yr ydym ni o Bethlehem Jwda, fc ystlys mynydd Effraim, o’r lle yr hairwyg: a mi a euthum hyd Bethlehem Jwda, a myned yr ydwyf i dŷ yr ARGLWYDD; ac nid oes neb a’m derbyn i dŷ. º
Judges 20:23(A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd a’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, A af fi drachefii i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr ARGLWYDI, DOS i fyny yn ei erbyn ef.) - º