Llyfr y Barnwyr 3:12
A meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a nerthodd Eglon brenin Moab yn erbyn Israel, am iddynt wneuthur drygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.
Cross References
Exodus 9:16Ac yn ddïau er mwyn hyn y’th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy yr holl ddaear.
Judges 2:14A llidiodd dicllonedd yr AR¬GLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.
1 Samuel 12:9A phan angofiasant yr ARGLWYDD eu Duw, efe a’u gwerthodd hwynt i law Sisera, tywysog milwriaeth Hasor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab; a hwy a ymladdasant i’w herbyn hwynt. º
Isaiah 10:15A ymffrostia y fwycll yn erbyn yr hwn a gymyno a hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a’i tynno? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a’i codai hi i fyny, neu megis pe ymddyr¬chafai y ffon, fel pe na byddai yn bren. º
Isaiah 45:1FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw,,i i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir: º
Daniel 4:22Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a’th lywodraeth hyd eithaf y ddaear.