Llyfr y Barnwyr 6:33
Yna y Midianiaid oll, a’r Amaleciaid, a meibion y dwyrain, a gasglwyd ynghyd, ac a aethant drosodd, ac a wersyllasant yn nyffryn Jesreel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 3:16Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ym mhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’ r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant, ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.
Joshua 19:18A’u terfyn hwynt oedd tu a Jezreel, a Chesùloth, a Sunem,
Judges 7:1Yna Jerwbbaal, hwnnw yw Gedeon, a gyfododd yn fore, a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod: a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt, wrth fryn More, yn y dyffryn.
Judges 7:24A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim, gan ddywedyd, Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o’u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth-bara a’r Iorddonen: a holl wŷr Effraim a ym¬gasglasant, ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth-bara a’r Iorddonen.
1 Kings 18:45Ac yn yr ennyd honno y nefoedd a dduodd gan gymylau a gwynt; a bu glaw mawr. Ac Ahab a farchogodd, ac a aeth i Jesreel. º
1 Chronicles 5:19A hwy a wnaethant ryfel yn erbyn yr Hagariaid, a Jetur, a Neffis, a Nodab.