Llyfr y Barnwyr 9:27
A hwy a aethant i’r meysydd, ac a gasglasant eu gwinllannoedd, ac a sangasant eu grawnwin, ac a wnaethant yn Mawen, ac a aethant i mewn i dŷ eu duw, ac a fwytasant ac a yfasant, ac a felltithiasant Abimelech. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 32:6A hwy a godasant yn fore drannoeth ac a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a ddygasant aberthau hedd: a’r bobl a eisteddasant i fwytta ac i yfed, ac a godant i fynu i chwarae.
Leviticus 24:11A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd, ac a felldigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan.
Judges 9:4A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dy Baal-berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal, y rhai a aethant ar ei ôl ef. º
Judges 16:23Yna arglwyddi’r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni. º
Isaiah 22:12A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd DDUW y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu a’sachliain: º