Yr Efengyl yn ôl Luc 11:42
Eithr gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu’r mintys, a’r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
41Yn hytrach rhoddwch elusen o’r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lan i chwi.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 11
Cross References
Deuteronomy 10:12¶ Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid,
2 Chronicles 31:5A phan gyhoeddwyd y gair hwn, meibion Israel a ddygasant yn aml, flaenffrwyth yr ŷd, y gwin, a’r olew, a’r mêl, ac o holl gnwd y maes, a’r degwm o bob peth a ddygasant hwy yn helaeth.
Proverbs 21:3Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr ARGLWYDD nag aberth.
Isaiah 1:10Gwrandewch air yr ARGLWYDD tywysogion Sodom, clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorra.
Jeremiah 7:2Saf di ym mhorth tŷ yr ARGLWYDD, a chyhoedda y gair hwn yno, a dywed, Gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi holl Jwda, y rhai a ddeuwch i mewn trwy y pyrth hyn i addoli yr ARGLWYDD.
Micah 6:8Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr ARGLWYDD gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th DDUW?