Yr Efengyl yn ôl Luc 20:37
Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
38Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 20
Cross References
Genesis 17:7Cadarnhâf hefyd fy nghyfammod rhyngof a thi, ac â’th had ar dy ol di, trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i’th had ar dy ol di.
Genesis 28:21A dychwelyd o honof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi.
Exodus 3:2Ac angel yr Arglwydd a ym ddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a’r berth heb ei difa.
Deuteronomy 33:16Ac â hyfrydwch y ddaear, ac â’i chyflawnder, ac âg ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseph, ac ar goryn yr hwn a neillduwyd oddi wrth ei frodyr.
Mark 12:26Ond am y meirw, yr atgyfodir hwynt, oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob?