Yr Efengyl yn ôl Luc 22:19
Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i toriodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18Canys yr ydwyf yn, dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw. ‘
Read all of Yr Efengyl yn ôl Luc 22
Cross References
Psalms 78:4Deliaist fy llygaid yn neffro: synodd arnaf, fel na allaf lefaru.
Song of Solomon 1:4Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu.
Ezekiel 37:11Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dy Israel oil: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a'n gobaith a gollodd, torrwyd ni ymaith o'n rhan ni.
Daniel 4:22Ti, frenin, yw efe; tydi a dyfaist, ac a gryfheaist: canys dy fawredd a gynyddodd, ac a gyrhaeddodd hyd y nefoedd, a’th lywodraeth hyd eithaf y ddaear.
Matthew 14:19Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, a chymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd; ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd.
Mark 14:22¶ Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff.